Rhif y ddeiseb: P-06-1225

Teitl y ddeiseb: Dylai Cyfoeth Naturiol Cymru orfod cynnal a chyhoeddi arolygon bywyd gwyllt blynyddol cyn cwympo coetir

Geiriad y ddeiseb: Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoli coedwigoedd y wladwriaeth, ond nid ydynt yn cynnal arolygon o boblogaethau rhywogaethau gwarchodedig cyn cwympo coetir. Er mwyn osgoi colli bioamrywiaeth, dylent asesu maint poblogaethau rhywogaethau prin sy'n bresennol cyn ymgymryd â gweithrediadau cwympo coetir, fel eu bod yn sicrhau nad yw colli cynefinoedd yn peri dirywiad. Dylai'r data poblogaeth gael ei gyhoeddi cyn i unrhyw goed gael eu gwerthu i'w torri. Ar hyn o bryd, dim ond ceisio atal anifeiliaid ac adar prin rhag cael eu lladd gan beiriannau cynaeafu y maen nhw’n ei wneud, ond nid yw hyn yn ddigon.

Nid yw'n ddigon da ceisio osgoi lladd anifeiliaid prin pan fydd coed yn cael eu torri i lawr. Mae angen rhai mathau o gynefin coedwig ar adar, ystlumod, pathewod a madfallod ac mae ei dorri i lawr yn golygu na allant oroesi yno mwyach. Yn ôl Clare Pillman, Prif Swyddog Gweithredol Cyfoeth Naturiol Cymru, mae mamaliaid fel y wiwer goch a llygoden y dŵr, adar fel y gylfinir a phlanhigion fel tegeirian y fign wedi'u gwasgu allan trwy golli cynefin
https://bbc.co.uk/news/uk-wales-58641886
Mae angen i Gyfoeth Naturiol Cymru fod yn onest ac arolygu poblogaethau cyn cwympo coed, gan gyhoeddi'r data fel y gall y cyhoedd weld a yw'r asiantaeth yn peri i'r boblogaeth ostwng. Fe ddylen nhw fod yn cymryd yr awenau gan sicrhau bod gan rywogaethau prin ddigon o gynefin, ac nid dim ond torri coedwigoedd i lawr trwy'r amser heb ddangos beth mae hyn wedi'i wneud i ystlumod a phathewod.


1.        Cefndir

Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n rheoli Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru. Mae Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru yn cyfrif am ~40 y cant o gyfanswm Adnodd Coedwigoedd Cymru a 6 y cant o gyfanswm arwynebedd tir Cymru. O dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016., mae gan Gyfoeth Naturiol Cymru ddyletswydd statudol i 'geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth' cyn belled â’i fod yn cyd-fynd ag arfer ei swyddogaethau yn briodol. Yn ei gyhoeddiad, Diben a rôl Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru, dywed Cyfoeth Naturiol Cymru:

Un o swyddogaethau YGLlC yw cynnal, cadw a gwella’n briodol amrywiaeth fiolegol ecosystemau coetiroedd Cymru

1.1.            Ardystiad coetir

Mae’r coetiroedd a reolir gan Gyfoeth Naturiol Cymru wedi’u hardystio’n ddeuol i'r Cyngor Stiwardiaeth Coedwigoedd ® (FSC®) a'r Rhaglen Cymeradwyo Ardystio Coedwigoedd. Mae'r cynlluniau ardystio coedwigoedd achrededig hyn yn seiliedig ar Safon Sicrwydd Coetiroedd y DU,  sef safon ardystio annibynnol ar gyfer gwirio bod  coetir yn cael ei reoli’n gynaliadwy yn y DU. Mae Safon Sicrwydd Coetiroedd y DU yn nodi'r angen i gymryd camau priodol i amddiffyn y cynefinoedd a’r rhywogaethau â blaenoriaeth a nodwyd, yn unol â chynlluniau y cytunwyd arnynt gydag asiantaethau cadwraeth natur.

1.2.          Cynlluniau Adnoddau Coedwigoedd

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn manylu ar unrhyw rywogaethau a warchodir neu gynefinoedd â blaenoriaeth y gallai ei weithrediadau effeithio arnynt mewn Cynllun Adnoddau Coedwigoedd. Mae hyn yn cynnwys gweithrediadau yn yr Uned Rheoli Coetir neu'r ardal gyfagos, a'r effaith ar raddfa tirwedd neu gysylltedd. Mae Cynlluniau Adnoddau Coedwigoedd yn nodi amcanion tymor hir ac maent yn sail i raglenni gwaith 10 mlynedd.

Mae Cynlluniau Adnoddau Coedwigoedd yn cael eu diweddaru bob 10 mlynedd, gyda gwybodaeth yn cael ei chasglu o arolygon safle a'r Ganolfan Cofnodion Lleol, sy'n cadw cofnod o’r achlysuron y gwelir bywyd gwyllt yn yr ardal. Mae llythyr Llywodraeth Cymru am y ddeiseb hon yn dweud:

Mae ailddatblygu [Cynlluniau Adnoddau Coedwigoedd] hefyd yn cynnwys ymgynghori â rhanddeiliaid mewnol ac allanol i ddarparu rhagor o wybodaeth bellach am rywogaethau a chynefinoedd.

1.3.          Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop

Mae gan Rywogaethau a Warchodir gan Ewrop amddiffyniad cyfreithiol o dan Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017. Mae’r Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop a ganfuwyd yng Nghoetiroedd Cymru yn cynnwys:

§  17 rhywogaeth o ystlum;

§  Pathewod;

§  Madfallod dŵr cribog; a

§  Dyfrgwn.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn darparu canllawiau penodol i rywogaethau  ar sut i benderfynu a oes rhywogaethau a warchodir gan Ewrop yn bresennol mewn coetir a beth i'w wneud os yw hynny’n wir. Mae angen trwydded rhywogaethau a warchodir ar gyfer gwaith a fydd yn tarfu ar rywogaethau a warchodir, neu eu cynefin, neu’n peri niwed iddynt.

Mae llythyr Llywodraeth Cymru am y ddeiseb hon yn dweud:

Cynhelir Asesiadau Rheoliadau Cynefinoedd (HRA) hefyd lle bo angen mewn perthynas â Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop (EPS), sy'n manylu ar y mesurau lliniaru sydd eu hangen yn ystod gweithrediadau. Mae hyn yn golygu ystyried yr effeithiau y gallai gweithrediadau eu cael ar rywogaethau a warchodir a graddau'r cynefin sydd ei angen i gefnogi'r rhywogaeth honno o fewn a thu allan i'r WMU.

Cynhelir arolygon safle fel rhan o'r broses cynllunio lleiniau [‘coupe’ yn Saesneg] o fewn yr FRP, er mwyn canfod a oes unrhyw gyfyngiadau ychwanegol. Os yw'r EPS yng nghyffiniau'r llain gweithredol, gwneir cais am Drwydded EPS a rhestrir y mesurau lliniaru priodol yn y cynllun megis parthau gwahardd (ni chaniateir unrhyw weithrediadau i ddiogelu cyfran ofynnol o'r cynefin) ac amseriad y cyfyngiadau. Gwneir hyn hefyd ar gyfer rhywogaethau gwarchodedig eraill os yw'r rhain o fewn cyffiniau'r llain.

1.4.          Gwybodaeth sydd ar gael i'r cyhoedd

Rhoddir Cynlluniau Adnoddau Coedwigoedd ar gofrestr gyhoeddus Cyfoeth Naturiol Cymrui roi cyfle pellach i ymgyngoreion allanol roi adborth a sylwadau ar y cynlluniau.

Mae llythyr Llywodraeth Cymru am y ddeiseb hon yn tynnu sylw at y ffaith nad yw data’r arolwg a gasglwyd i lywio’r Cynllun Adnoddau Coedwigoedd a’r cynlluniau lleiniau ynddo yn cael eu rhannu'n allanol ‘oherwydd sensitifrwydd y data'.

2.     Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Amlinellir dull Llywodraeth Cymru o gynnal arolygon bywyd gwyllt sy'n gysylltiedig â chwympo coetir yn adran Cefndir y briff hwn a llythyr Llywodraeth Cymru am y ddeiseb hon.

3.     Camau gweithredu Senedd Cymru

Ar 8 Rhagfyr 2021, trafododd y Senedd ddeiseb gysylltiedig, P-06-1208, sy'n galw am ddeddfau newydd i amddiffyn cynefin gwiwerod coch.

Yn y ddadl, tynnodd Darren Miller AS, hyrwyddwr rhywogaeth y wiwer goch Cyswllt Amgylchedd Cymru yn y Senedd, sylw at y ffaith nad oes “unrhyw rwymedigaeth o gwbl” i ddiweddaru neu adnewyddu Cynlluniau Adnoddau Coedwigoedd i adlewyrchu newidiadau ym mhoblogaeth y wiwer goch yn flynyddol. Roedd yn dadlau dros ddiweddaru cynlluniau 10 mlynedd yn amlach i amddiffyn poblogaethau bywyd gwyllt.

Yn ei hymateb, dywedodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, fod Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru yn trafod “pa mor agos at y gwaith cwympo ei hun y dylid cael ail adolygiad o’r safle ar gyfer amodau cynefin  gwahanol”. Dywedodd na fyddai ail arolwg yn cael ei wneud o bob safle, ac y byddai “ffactorau” yn cael eu hystyried wrth wneud penderfyniadau ar y mater.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.